Skip to main content

https://lifeathmrc.blog.gov.uk/2017/10/04/os-gallwch-ddarllen-hwn-efallai-mai-chi-ywr-person-yr-ydym-yn-chwilio-amdano/

Os gallwch ddarllen hwn efallai mai chi yw'r person yr ydym yn chwilio amdano

Posted by: , Posted on: - Categories: Digital, Diversity and inclusion

Welsh Language TeamShwmae! – Lee Jones ydw i. Dwi'n bennaeth ar Uned Gymraeg CThEM, ac yn gweithio yn y ganolfan gwasanaethau digidol newydd sbon yng Nghaerdydd.

Yn 1993, daeth Deddf yr Iaith Gymraeg i fodolaeth. Sefydlodd y Ddeddf hon yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd yng Nghymru, ac y dylai adrannau'r Llywodraeth, megis CThEM, ddarparu'u gwasanaethau yn Gymraeg. Mae CThEM yn fy nghyflogi i a'm tîm i ddarparu cyfieithiadau a rhoi cyngor ymarferol ar wasanaeth Cymraeg. Rydym yn cynnig cefnogaeth ar bopeth, o wasanaethau rheng flaen i gwsmeriaid i'r cyfan sydd ar gael yn ddigidol yn Gymraeg. Gan fod CThEM yn sefydliad mawr, gyda nifer o swyddfeydd ar draws y DU yn darparu gwasanaethau i Gymru, rwy'n cynghori ar 'bryd a sut' o ran materion cyfieithu a'r hyn y mae ein cwsmeriaid eu heisiau yn Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yr ydym yn ei gyfieithu ar gyfer deunydd ar-lein mewn rhyw ffordd – tudalennau gwe neu ffurflenni.

Mae tua 20 y cant o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg. Mae hyn, fodd bynnag, yn amrywio yn ôl lleoliad. Mae gan Ogledd Cymru, er enghraifft, ardaloedd sydd â hyd at 80 y cant o siaradwyr Cymraeg. Mae ein harwyddion a'n henwau lleoedd i gyd yn ddwyieithog, ac mae hyn yn arwain at lawer o ddiddordeb ymhlith ymwelwyr sy'n anghyfarwydd â'r iaith, heb sôn am rai ynganiadau diddorol iawn! Mae gennym hefyd yr ail enw hiraf yn y byd ar le – Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Nawr ceisiwch chi ddweud hwnna!

Y llynedd roedd gennym tua 16,000 o gwsmeriaid a oedd eisiau cael gwasanaeth Cymraeg llawn, cawsom tua 21,000 o alwadau drwy gyfrwng y Gymraeg, anfonwyd dros 20,000 o lythyrau yn Gymraeg a chyfieithwyd dros 1 miliwn o eiriau i'r Gymraeg. Mae'n wych gweithio mewn tîm lle rydych yn gwybod y gallwch helpu'n cwsmeriaid i ddefnyddio'r iaith y maent fwyaf cyfforddus â hi.

We have published a version of this blog in English too!

 

 

Sharing and comments

Share this page